Rhoddwyd Capsiwl Amser y Mileniwm yn wal y Fynwent Ogleddol gan y Gwir Barchedig Huw Jones, Esgob Tyddewi ddydd Sul 4 Mehefin 2000, a hynny ym mhresenoldeb y periglor, y Parchedig John Esau, ac aelodau o'r eglwys. Ymhlith y cynnwys y mae ffotograffau o'r plât eglwysig, neges ar gyfer y dyfodol gan yr Esgob Jones, y cyn Esgob, y Gwir Barchedig George Noakes, a'r Parchedig John Esau, ynghyd â chyfrifiad cryno a ffotograffau o aelodau o'r eglwys a'u teuluoedd. Mae lleoliad y capsiwl wedi'i ddynodi gan garreg sy'n dwyn y dyddiad pan fydd yn cael ei agor yn 2050.
Mae cofeb ar ochr allanol wal Ogleddol y Seintwar ac arni darian yn dwyn arysgrifau o Mathew 25 yn Saesneg ac Ail Corinthiaid 5:10 yn Gymraeg.
Siâp chweonglog sydd i'r bedyddfaen ac fe'i codwyd yn yr 17eg ganrif; mae ganddo orchudd pren cerfiedig, yn dangos cloch Sant Llawddog, a roddwyd yn anrheg yn 1970. Rhoddwyd y ffenestr Ddwyreiniol, a luniwyd gan H Hughes, Llundain yn 1879, yn anrheg er cof am John Lloyd Price. Rhoddwyd y ffenestr Orllewinol, sy'n darlunio esgyniad yr Iesu i'r nefoedd, yn anrheg er cof am Jane Walker Jones yn 1879. Mae yna ffenestr ar ochr Ddeheuol corff yr eglwys a roddwyd yn anrheg er cof am John a Mary Bowen Davies, Derlwyn, yn yr 1960au, sy'n cynnwys portread bychan o'r ddau ohonynt.
A dyma gwblhau hanes Eglwys Llanllawddog, a ysgrifennwyd gan y diweddar D. Elfed Treharne Lewis a'r cyn-Ficer, y Parchedig Ann Howells.